Sgyrsiau gonest am AI
Mae Engedi yn ceisio ymgysylltu â chymunedau lleol yng Nghaernarfon a’r ardaloedd cyfagos i ddeall yr agweddau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth fabwysiadu AI.

Mae Engedi yn ymroddedig i sicrhau na chaiff unrhyw bobl na chymunedau eu gadael ar ôl yn yr oes ddigidol. Fel rhan o raglen fwy, rydym yn ceisio cael sgwrs onest â phobl leol am AI, a deall eu gobeithion, eu pryderon ac unrhyw rwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r dechnoleg hon. Ein nod hirdymor yw datblygu gweithdai sy’n chwalu’r dirgelwch ynghylch AI ac sy’n defnyddio cymwysiadau ymarferol o AI sy’n ennyn creadigrwydd a sgiliau datrys problemau’r cyfranogwyr. Mae hwn yn faes gwaith newydd i Engedi, ac rydym yn chwilio am gyllid ar ei gyfer. Os hoffech gefnogi’r gwaith hwn, cysylltwch â ni.